Enfys

Cariad Interactive are delighted to be working with the Arts Council of Wales, Our Space scheme on an interactive arts project designed for, and with, preschool children. Our project is called Enfys (Rainbow) and the idea is to create a motivating interactive environment for children to explore the themes of colour though rhythmic movement and singing in the medium of Welsh.

Camera inputs will capture the actions of the children, which will be output onto a variety of surfaces, large or small, as a sequence of bidirectional, cause and effect, call and response, activities.

The Research and Development phase of Enfys is being undertaken with Cylch Meithrin Aberdar and Cylch Meithrin Trelai. Mudiad Meithrin is the main provider of Welsh medium early years care and education in the voluntary sector.

Mae’n bleser gan Cariad Interactive weithio gyda chynllun Cyngor Celfyddydau Cymru, Ein Lle Ni, ar brosiect celf ryngweithiol a gynlluniwyd ar gyfer, a gyda, plant cyn oedran ysgol. Enw’r prosiect yw Enfys, a’r syniad yw creu amgylchedd rhyngweithiol ysgogol i blant archwilio themâu lliw drwy symudiad rhythmig a chanu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd mewnbwn camera yn dal symudiadau’r plant ac yna eu hallbynnu ar amrywiaeth o arwynebau, mawr neu fach, fel cyfres o weithgareddau deugyfeiriad, achos ac effaith a galw ac ymateb.

Cynhelir cyfnod cychwynnol y Cynllun, sef ymchwilio a datblygu’r syniad, gyda Chylch Meithrin Aberdâr a Chylch Meithrin Trelai.   Mudiad Meithrin yw’r prif ddarparwr gofal ac addysg y blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol yng Nghymru.

Leave a Reply